Text Box: Nick Ramsey AM 
 Cadeirydd, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

10 Hydref 2017

Annwyl Nick

 

Ar y Trywydd Iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru

 

Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad ei adroddiad Ar y Trywydd Iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru ym mis Gorffennaf 2017, a dydd Mercher 27 Medi, cawsom drafod yr adroddiad yn y Senedd.

 

Roedd y gwaith a wnaeth SAC eisoes, yn enwedig yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Medi 2016, Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd, a'r briff yr oedd Huw yn gallu ei ddarparu i'r Pwyllgor wrth i ni ddechrau ein gwaith, yn adnodd amhrisiadwy i ni. Ac rydym hefyd yn ddiolchgar am y nodyn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a oedd yn tynnu sylw at nifer o faterion i ni graffu ymhellach arnynt yn ein gwaith.

 

Yn ein hadroddiad, o ganlyniad uniongyrchol i'ch cyfraniad, nodwyd ein pryderon ynghylch dimensiwn gwerth am arian y fasnachfraint newydd.

 

Casgliad 15

Yng nghyd-destun argymhelliad ACC, mae'r Pwyllgor yn cydnabod yr anawsterau sydd ynghlwm wrth feincnodi caffael elfen masnachfraint y contract (hy heb gynnwys y Metro) yn erbyn masnachfreintiau eraill. Fodd bynnag, nid yw'n derbyn y bydd yn amhosibl i Lywodraeth Cymru ddangos gwerth perthynol am arian yr elfen masnachfraint yn erbyn masnachfreintiau presennol Trenau Arriva Cymru. O ystyried yr ansicrwydd mawr sydd ynghlwm wrth y broses gaffael, credwn y bydd yn hynod bwysig i Lywodraeth Cymru ddangos gwerth am arian.

 

Casgliad 16

Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at ACC a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i rannu ein pryderon am werth am arian ac i gefnogi unrhyw gynlluniau i wneud rhagor o waith ar y broses ar ôl ei chwblhau.

 

Ychydig y mae ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad - a gyhoeddwyd cyn y ddadl - wedi'i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd yn ystod gwaith Swyddfa Archwilio Cymru ac yn ein gwaith casglu tystiolaeth cychwynnol. Mae'n parhau o'r farn y bydd y broses ddeialog gystadleuol ei hun yn llywio gwerth am arian.

 

Felly, yr wyf yn ysgrifennu i ddiolch am eich cyfraniad i'n hymchwiliad, ac i nodi, o ystyried maint y contract hwn a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r broses gaffael, y byddem yn cefnogi craffu pellach ar y cwestiwn gwerth am arian unwaith y bydd y tendr masnachfraint wedi'i ddyfarnu, ac y gwyddom faint fydd y gost.  

 

Yn gywir

 

 

 

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau